Brexit: Her hanesyddol i ffermio a bwyd
Gadael yr UE: Yr Effaith ar Gymru - BWYD Adroddiad ar gyfer Jill Evans ASE
Mae ffermio a’r diwydiant bwyd yn wynebu her anferthol hanesyddol wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd: sut mae ymdopi ag effaith Brexit ar allforian, incwm ffermwyr a gweithwyr yn y sector fwyd, ar fywyd gwledig ac ar yr iaith a diwylliant Chymraeg.
Er bod telerau i adael dim wedi cytuno eto, mae asesiadau gan arbenigwyr yn awgrymu rhai o’r effeithiau tebychaf:
- Fe fydd yna ansicrwydd am o leiaf ddegawd os yw Cymru’n cael ei gorfodi i adael yr UE, yn enwedig os yw hynny’n cynnwys gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Dollau.
- Fe fydd yna golledion, gan gynnwys colli system gymorth hysbys ar gyfer amaeth a physgota a chymorth rheoleiddiol ar gyfer diogelwch a diogelu bwyd.
- Bydd ansawdd a diogelwch ein bwyd mewn perygl os na bydd rheoliadau Ewropeaidd yn cael eu mabwysiadau’n llwyr ac yn gadarn yn y gyfraith y DU.
Yn dibynnu ar delerau’r cytundeb i adael, fe allai Brexit daro ffermio yng Nghymru a’r sector fwyd ehangach yn galed ac yn gynnar.
Mae’n bosibl na bydd cynnyrch Cymreig, melis cig oen, yn llwyddo cystadlu yn y farchnad Ewropeaidd os bydd rhaid allforio o dan telerau’r WTO. Wrth ychwanegu hefyd colled y taliadau dan y Polisi Amaeth Cyffredin, bydd ffermwyr a gweithwyr y sector yn cael sioc ariannol sylweddol.
Bydd yr effaith negyddol posibl i’w deimlo ar brisoedd, ansawdd, diogelwch a chyflenwad bwyd ac ar yr amgylchedd, iechyd a chydraddoldeb mynediad at fwyd da.
Her hanesyddol sylweddol yn wir.
Mae copiau caled o’r adroddiad ar gael oddi wrth Jill Evans MEP: 01443 441295 neu [email protected]