26 Feb

Rhaid gweithredu’n awr i dorri’r cyswllt rhwng tlodi ac ethnigrwydd yng Nghymru

Mae Safbwynt newydd gan JRF, Torri’r cyswlltiadau rhwng tlodi ac ethnigrwydd yng Nghymru, yn datgelu y bydd anghydraddoldeb mawr cysylltiedig ag ethnigrwydd yn debyg o barhau hyd at 2022 a thu hwnt oni chymerir camau yn awr. Ond mae’n dadlau nad yw hyn yn anorfod.

Gall Cymru dorri’r cyswllt rhwng tlodi ac ethnigrwydd: dyma’r neges allweddol, ond dim ond os ceir arweiniad cryf a bod y gweithredu’n dechrau yn awr.

Mae’r Safbwynt yn nodi achosion yr anghydraddodlebau sy’n gysylltiedig ag ethnigrwydd yng Nghymru ac yn cynnig cyfres o gamau i dorri’r cysylltiadau hyn. Gall polisi cyhoeddus, gwasanaethau lleol, ymddygiad cyflogwyr a chenfogaeth i fewnfudwyr newydd oll wneud gwahaniaeth.

Wedi ei ysgrifennu gan Egino a’r Uned Pobl a Gwaith, ac wedi ei gyhoeddi gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF), mae’r Safbwynt yn defnyddio swm helaeth o ymchwil ar dlodi ac ethnigrwydd a wnaed gan raglen Tlodi ac Ethnigrwydd JRF.

Mae’r problemau yn glir ond yn amrywio ar draws Cymru

Mae’r cysylltiadau presennol ac a ragwelir rhwng tlodi ac ethnigrwydd yng Nghymru yn glir, ond y maent yn amrywio llawer ar draws llefydd a thros amser – a rhyw: mae bod yn fenyw yn ffactor risg o bwys:
• Yng Nghymru, rhagwelir y bydd y gyfradd o menywod o leiafrifoedd ethnig sydd mewn gwaith yn aros dan 50% trwy gydol 2012 – 2020.
Mae cyfran y bobl o leiafrifoedd ethnig mewn tlodi yn uwch na chyfran y boblogaeth Wyn fwyafrifol, gyda rhai grwpiau mewn mwy o berygl.
• Amcangyfrifir bod cyfradd tlodi yn y grŵp Asiaidd ddwywaith yn uwch na’r hyn ydyw ymysg y mwyafrif Gwyn.
• Mae tuedd i bobl o Fangladesh a Phacistan fod dan fwyaf o anfantais ar draws amrywiaeth o ddangosyddion.
• Mae dynion o Fangladesh dros 7 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn swyddi â chyflogau isel na dynion Gwyn sydd fel arall mewn sefyllfa gymharol.
• Mae’r gyfradd ddiweithdra yn y grŵp Caribïaidd yng Nghymru bron ddwywaith gymaint â chyfradd y mwyafrif Gwyn.

Hiliaeth? Ynte’r mathau anghywir o swyddi?

Mae hiliaeth a chamwahaniaethu yn parhau i fod yn ffactorau negyddol, ac erys ymdrechion i fynd i’r afael â hwy yn bwysig. Ond mae ffactorau eraill hefyd nad ydynt yn cael eu deall cystal ac a all helpu i ganolbwyntio ymdrechion yn effeithiol.

Mae gwahaniaethau mewn enillion, er enghraifft, yn ganlyniad i’r ffaith fod niferoedd mawr o bobl o rai grwpiau ethnig yn debyg o gael eu cyflogi mewn sectorau a galwedigaethau sydd â thâl isel. Pan fyddant yn gwneud yr un gwaith, mae gweithwyr yn tueddu i dderbyn yr un tâl, waeth beth fo’u hethnigrwydd.

Dylai ymdrin â chrynhoi rhai grwpiau ethnig mewn swyddi sy’n talu’n wael fod yn flaenoriaeth ym maes polisi cyhoeddus.

Rhwydweithiau cymdeithasol: help neu rwystr?

Gall cyfeillgarwch, y modd yr ydym yn gofalu am ein hanwyliaid, a rhwydweithiau cymdeithasol anffurfiol wneud gwahaniaeth o ran tebygolrwydd rhywun o fyw mewn tlodi neu ennill bywoliaeth dda.

Mae hyn yn rhannol oherwydd y modd mae gwybodaeth a chyngor yn cylchdroi yn anffurfiol. Gall deall hyn roi mewnwelediad pwysig i’r modd y gall gwasanaethau cyhoeddus ymwneud yn well â’n poblogaeth amrywiol.

Y camau at weithredu

Mae’r Safbwynt yn dadlau fod angen camau ar draws y sector cyhoeddus, a hefyd o du cyflogwyr, busnesau, grwpiau o’r trydydd sector, undebau llafur a dinasyddion eu hunain. Maent yn argymell pum prif agwedd ddylai gael effaith, a bod yn gost-effeithiol yr un pryd:

• ymwneud
• integreiddio
• ymyrryd yn gynnar ac atal
• llunio’r gweithlu a gweithgaredd y farchnad lafur
• mynnu tystiolaeth a’i ddefnyddio.

Y camau nesaf

Gyda cymorth JRF mae Egino a’r Uned Pobl a Gwaith yn trefnu nifer to drafodaethau bord gron i drafod y canlyniadaeu a’r ffwrdd ymlaen:

Goblygiadau polisi cenedlaethol
• Dydd Mawrth 15 Mawrth 2016 11:00-13:00, Caerdydd

Gwaith, ethnigrwydd a thlodi yng Nghymru
• Dydd Llun 4 Ebrill 2016 – 14:00-16:00, Abertawe

Addysg, ethnigrwydd a thlodi yng Nghymru
• Dydd Mercher 6 Ebrill 2016, 14:00-16:00, Caerdydd

Am fwy o wybodaeth ebostiwch [email protected]