29 Oct

Why ethnicity matters to local authority action on poverty

Poverty is a growing problem. Already around 1 in 6 people in the UK live in poverty and it’s getting worse: In 6 years’ time, the Institute for Fiscal Studies predicts that 1 in 4 adults will live in poverty, and 1 in 3 children. With resources to tackle poverty getting ever more scarce its essential that the resources that are available are used in as smart a way as possible. That means that they need to be based on accurate information and be as joined up as possible.

Poverty in the UK is higher among all ethnic minority groups than white British people. It varies between and within ethnic groups but is also different in different places. People from Indian and African Caribbean backgrounds are more likely to be employed if they live in Luton than Leicester. In contrast, the Pakistani community have better opportunities and employment outcomes in Leicester than Luton. Local differences demand local responses by local government.

After all, the consequences of poverty fall heavily on local areas and local service providers. Poverty affects children and adults’ health, education, their chances of being in work and many other aspects of their lives. For local authorities, many of their biggest areas of work are made much more challenging because of the poverty their residents experience.

Local authorities play a key part in reducing poverty and minimising the damage it does. But many find that their efforts are less effective than they hope. One reason is that they haven’t looked sufficiently at how different groups of people are affected by poverty and why some solutions may not help everybody equally. A new briefing written by Egino and published by Joseph Rowntree Foundation sets out how understanding the links between ethnicity and poverty in their areas can help local authorities improve and tailor their services and make their economies work better for everyone.

Some of the underlying links between poverty and ethnicity are specific to particular groups. This includes racism and discrimination, English language skills and experiences of immigration and asylum. But many – such as limited social networks, negative workplace culture and low demand for skilled work – are relevant to people living in poverty across all ethnicities.

Local authorities can make a big difference by integrating action to address poverty and the links with ethnicity across key functions. The way local authorities behave as employers, what they expect of employers in their supply chains, the direction of local economic and skill strategies, the relationship between services and different ethnic groups, all impact on poverty. Using data and knowledge about the needs and experiences of different groups in an area need not cost additional resources. Doing this can make local economies work better and help services deliver more for less.

Mae tlodi yn broblem gynyddol. Eisoes mae rhyw 1 o bob 6 o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn byw mewn tlodi, a gwaethygu y mae pethau. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol yn rhagweld, ymhen 6 blynedd, y bydd 1 o bob 4 oedolyn yn byw mewn tlodi, ac 1 o bob 3 plentyn. Gydag adnoddau i drin tlodi yn prinhau bob gafael, mae’n hanfodol bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio mor ddeallus ag sydd modd. Ystyr hyn yw bod yn rhaid iddynt fod yn seiliedig ar wybodaeth fanwl gywir a bod wedi eu cyd-gysylltu gymaint ag sy’n bosib.

Mae tlodi yn y DG yn uwch ymysg pob grŵp ethnig lleiafrifol nac ymysg Prydeinwyr gwyn. Mae’n amrywio rhwng ac o fewn grwpiau ethnig ond y mae’n wahanol hefyd mewn llefydd gwahanol. Er enghraifft, mae pobl o gefndiroedd Indiaidd a Charibïaidd Affricanaidd yn fwy tebyg o fod mewn gwaith os ydynt yn byw yn Luton nac yng Nghaerlŷr. Ar y llaw arall, mae gan y gymuned Bacistanaidd well cyfleoedd a chanlyniadau cyflogaeth yng Nghaerlŷr nac yn Luton. Mae gwahaniaethau lleol yn mynnu ymatebion lleol gan lywodraeth leol.

Wedi’r cyfan, mae canlyniadau tlodi yn disgyn yn drwm ar ardaloedd lleol a darparwyr gwasanaethau lleol. Mae tlodi yn effeithio ar iechyd plant ac oedolion, eu haddysg, eu gobaith o fod mewn gwaith a llawer agwedd arall yn eu bywydau. I awdurdodau lleol, mae llawer o brif feysydd eu gwaith yn cael eu gwneud yn fwy heriol o lawer oherwydd y tlodi ddaw i ran eu trigolion.

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol mewn lleihau tlodi a lleihau’r niwed mae’n wneud. Ond mae llawer yn gweld bod eu hymdrechion yn llai effeithiol nac yr oeddent wedi gobeithio. Un rheswm yw nad ydynt wedi edrych yn ddigonol ar sut yr effeithir ar wahanol grwpiau o bobl gan dlodi a pham nad yw rhai atebion yn helpu pawb yn yr un modd. Mae briffiad newydd o Sefydliad Joseph Rowntree yn gosod allan sut y gall deall y cysylltiadau rhwng ethnigrwydd a thlodi yn eu hardaloedd helpu awdurdodau lleol i wella a theilwrio eu gwasanaethau a gwneud i’w heconomïau weithio’n well i bawb.

Mae rhai o’r cysylltiadau sylfaenol rhwng tlodi ac ethnigrwydd yn benodol i grwpiau arbennig. Mae hyn yn cynnwys hiliaeth a chamwahaniaethu, sgiliau iaith Saesneg a phrofiadau o fewnfudo a lloches. Ond mae llawer – fel rhwydweithiau cymdeithasol cyfyngedig, diwylliant negyddol yn y man gwaith a fawr ddim galw am waith â sgiliau – yn berthnasol i bobl sy’n byw mewn tlodi ar draws pob ethnigrwydd.

Gall awdurdodau lleol wneud gwahaniaeth mawr trwy integreiddio camau i fynd i’r afael â thlodi a’r cysylltiadau gydag ethnigrwydd ar draws swyddogaethau allweddol. Mae’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn ymddwyn fel cyflogwyr, beth maent yn ddisgwyl gan gyflogwyr yn eu cadwyni cyflenwi, cyfeiriad strategaethau economaidd a sgiliau lleol, y berthynas rhwng gwasanaethau a gwahanol grwpiau ethnig, oll yn cael effaith ar dlodi. Nid oes rhaid i ddefnyddio data a gwybodaeth am anghenion a phrofiadau gwahanol grwpiau mewn ardal olygu mwy o gost o ran adnoddau. Gall gwneud hyn wneud i economïau lleol weithio’n well a helpu gwasanaethau i gyflwyno mwy am lai.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *